Job Description
Athro/Athrawes – CA2 y Sector Gynradd (Swydd Parhaol)
Medi 2026 neu cyn gynted â phosib ar ôl hynny.
Dymuna Corff Llywodraethwyr Ysgol Bro Preseli benodi athro rhagorol, brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â’n tîm uchelgeisiol a gweithgar.
Mae’r swydd yn barhaol, gyda’r cyfrifoldeb o addysgu yn yr Adran Iau.
Rydym yn chwilio am athro / athrawes sydd:
 phrofiad cadarn o addysgu rhagorol yn yr adran iau
Yn meddu ar ddealltwriaeth glir o ddatblygiad plant 7-11 oed a sut i greu amgylchedd dysgu ysgogol, trefnus a diogel sy’n cefnogi cynnydd
Yn gallu cynllunio a darparu profiadau dysgu heriol ac ystyrlon sy’n datblygu medrau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol
Yn gallu meithrin annibyniaeth, dyfalbarhad a medrau dysgu effeithiol ymhlith disgyblion
Yn gallu gweithio’n effeithiol gyda rhieni a gofalwyr i gefnogi cynnydd academaidd a lles disgyblion
Yn meddu ar ddealltwriaeth gad...