💼 Full-Time Position

Dirprwy Bennaeth - YGG Ynyswen

🏢
Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen
📍 Treorchy, Wales, United Kingdom
📍
Location
Treorchy, United Kingdom
📅
Posted
June 18, 2026
Type
Full-Time
🎯

Full-Time Opportunity: This is a permanent, full-time position with a competitive package and real career growth potential.

Job Description

DescriptionSupporting documentsEmployerLocation

Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen

DIRPRWY BENNAETH

Cyflog: £61,198 – £67,531 (A 7-11)

Dyddiad Dechrau: Ionawr 2027

Nifer ar y Gofrestr: 235

Ydych chi'n chwilio am her gyffrous, ac yn awyddus i gael cyfle i wneud gwahaniaeth fel Dirprwy Bennaeth?

Mae Pennaeth a Chorff Llywodraethol Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen yn frwd i benodi Dirprwy Bennaeth cydwybodol a deinamig i weithio fel rhan o dîm hynod ysgogol a phrofiadol. Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen yn ysgol lwyddiannus sy’n byrlymu â phlant brwdfrydig, chwilfrydig a chyfeillgar. Mae’r holl staff yn ymroddedig ac yn ymdrechu’n barhaus am y gorau dros ein disgyblion. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn aelod allweddol o’r tȋm arweinyddiaeth, gan gyfrannu syniadau ac egni newydd i ddatblygiad parhaus yr ysgol. Mae’n gyfle delfrydol i ddarpar ddirprwy gyfrannu at y gwahaniaeth cadarnhaol y mae’r ysgol yn ei gwne...