Job Description
Job Description (Welsh)
Rydym yn chwilio am Swyddog Trafnidiaeth i ymuno â’n Tîm Trafnidiaeth, gan adrodd i’r Uwch Swyddog Trafnidiaeth. Fel Swyddog Trafnidiaeth, byddwch yn chwarae rhan bwysig wrth helpu i gyflawni blaenoriaethau trafnidiaeth rhanbarthol ledled Gogledd Cymru. Mae hon yn rôl amrywiol a dylanwadol, yn cefnogi gweithrediad llwyddiannus y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ac yn helpu i sicrhau bod cynlluniau trafnidiaeth a ariennir yn symud ymlaen yn effeithiol, ar amser ac yn unol â’r amcanion a gytunwyd.
Gan weithio’n agos gydag awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a chydweithwyr mewnol, byddwch yn monitro cyflawniad, cyllidebau, risgiau a chanlyniadau ar draws rhaglen o weithgarwch trafnidiaeth. Byddwch yn helpu i gasglu a dadansoddi gwybodaeth, cynnal cofnodion cywir, cyfrannu at adroddiadau, a chefnogi penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n cryfhau cynllunio a buddsoddi mewn trafnidiaeth ar draws y rhanbarth.
Byddai’r rôl hon ...